Set y Bachgen Main

Set mis
Rhagfyr
2018
December
set

Setiau - Sets
A,B,C ....


Mis blaenorol
Previous month
Mis nesaf
Next month
 


Wele Gwawriodd
The great day dawned
Midi
Gif
Y Bachgen Main
The slender lad
Midi
Gif
Rîl Clawdd Offa
Offa's Dyke's Reel

Midi
Gif
Set y Bachgen Main
The set




Chwarae'r set
Play the set

Mae'r set hon yn dechrau gyda Wele Gwawriodd, carol Cymreig sy'n ddigon adnabyddus i gymunedau dros Gymru.
Mae'r Bachgen Main sy'n dilyn yn gân ar hen alaw yng nghywair lleddf sydd yn nodwedd digon cyfarwydd o'n halawon Cymreig, yn troi i'r cywair mwyaf yn ei hail ran.
Seilir Rîl Clawdd Offa ar jig adnabyddus Clawdd Offa sydd wedi'i chynnwys yn Set Marchogion Eryri sydd wedi'i gynnwys yn y casgliad hwn.

This Christmas set starts with Wele Gwawriodd, a Welsh carol which is fairly well known in Welsh-speaking communities.
Y Bachgen  Main which follows is a song sung to an old tune in a minor key which is characteristically Welsh, going into the major for the B part.
Rîl Clawdd Offa is a reel based on the well-known jig Clawdd Offa included in Set Marchogion Eryri which is another set in this collection.




Chwarae'r alaw
Play the melody
Chwarae'r alaw gyda harmoni
Play the melody with harmony
Chwarae'r harmoni'n unig
Play the harmony part


Wele gwawriodd dydd i'w gofio,
  Geni Seilo, gorau swydd;
Wele ddynion mwyn a moddion
  Ddônt â rhoddion iddo'n rhwydd:
Hen addewid Eden odiaeth
  Heddiw'n berffaith ddaeth i ben;
Wele drefniad dwyfol gariad
  O flaen ein llygad heb un llen.

Duw a'n cofiodd, Duw a'n carodd,
  Duw osododd Iesu'n Iawn;
Duw er syndod ddarfu ganfod
  Trefn gollyngdod inni'n llawn:
Duw ryfeddir, iddo cenir
  Gan drigolion nef a llawr,
Tra bydd Iesu, fu mewn gwaeledd,
  'N eistedd ar yr orsedd fawr.

Halelwia! Halelwia!
  Aeth i'r lladdfa yn ein lle;
Halelwia! Halelwia!
  Duw sy'n fodlon ynddo fe:
Sain Hosanna i Fab Dafydd,
  Iesu beunydd fyddo'n ben;
Am ei haeddiant sy'n ogoniant
  Bydded moliant mwy, Amen.






Chwarae'r alaw
Play the melody
Chwarae'r alaw gyda harmoni
Play the melody with harmony
Chwarae'r harmoni'n unig
Play the harmony part


Ffion Mair yn Canu'r gân





Fel yr o’wn i’n rhodio’r caea ddy’ Mawrth diwetha’ o ddyddia’r byd
Mewn lle isel dan goedwig dawel mi glwy’n i ddwy’n ymgomio ‘nghyd,
Nesu wnes yn nes nes atynt nes o’wn i yn y lle a’r fan
A phwy oedd yno yn ymgomio ond f’annwyl gariad i gyda’i mam.

“F’annwyl eneth, ti sydd yma gyda mi â’th ddwy law’n rhydd
Yn lan dy drwsiad yn hardd d’osodiad a minnau am dy fatsio sydd,
Cei fowntio’th geffyl fy nghangen gynnil, a gweision sufyl iawn i’w trin,
A golud bydol sef aur melynion ac arian gloywon ar dy glun.”

“Pe gawn i rannau gwledydd India, sidanau Persia, aur Periw
Gwell gen i’r mab rwyf fi’n ei garu, rwyf fi am sefyll iddo’n driw,”
“Wel os fel yna rwyt ti’n darparu cei gweirio’th gwely ar bigau’r drain
Oni choeli ‘ngeiria bydd chwerw’r chwara os mentri gyda’r bachgen main.”

“Wel gyda’r bachgen main mi fentra, Mam a dwedyd ichi’r gwir,
Gadawai’r moddion i’r cybyddion a mentraf gyda blodau’r sir,
Ei wyneb purwyn a’i wallt melyn ac ar ei ruddiau mae dwy ros
A gwyn ei byd y ferch a fyddo yn ei freichiau’n cysgu’r nos!”









Chwarae'r alaw
Play the melody
Chwarae'n araf
Play slowly

Setiau - Sets
A,B,C ....


Mis blaenorol
Previous month
Mis nesaf
Next month