![]() |
Dawns Ffaniglen | Set mis Mai 2020 May set |
||||||
|
Chwarae'r set Play the set |
Dawns
yw Ffaniglen sy'n cael pawb ar y llawr mewn Twmpath Cymreig i ddawnsio
mewn cylch; mae'n gyflwyniad delfrydol i newydd-ddyfodiaid i ddawnsio
cymdeithasol. Mae un tro twy'r ddawns yn cyfateb i chwarae'r prif dôn
unwaith drwodd. Yn Ffaniglen, mae'r partneriaid yn aros gyda'i gilydd
trwy'r ddawns sy'n parhau am gynifer o rowndiau ag y mae'r galwr
yn penderfynu, fel arfer 6 gwaith neu fwy. Y brif alaw yw Ffaniglen sy'n ymddangos yn set Machynlleth yn gynharach yn y casgliad hwn ac yn llyfr Alawon Sesiwn. Mae'n dôn y gallwch addasu a chwarae ganddi: mae'r fersiwn syml yn dangos sut y gellir symleiddio yn bariau7 ac 8, 10 a 12, 23 a 24, 26 a 28. Gall chwaraewyr mwy profiadol roi eu rhediadau eu hunain, ee. barrau 3 a 4. Fel arfer mae'r ddawns yn cychwyn yn weddol araf er mwyn rhoi cyfle i'r dawnswyr ei dysgu ac ar ôl mynd trwyddi ychydig o weithiau, mae'n cyflymu gyda phob rownd yn olynol.Mae alaw amgen yn hanfodol ar ôl chwarae'r brif thema ddwywaith neu fwy i ddysgu'r ddawns. Darperir hwn yma gan Difyrrwch Gwŷr Llanfabon sydd yn set Rali Twm Sion yn y casgliad hwn ac yn Alawon Sesiwn 2. Y Ddawns Mae'r partneriaid yn sefyll ochr yn ochr mewn cylch yn dal dwylo, y bachgen y tu mewn, yn wynebu gwrthglocwedd. A1: Partneriaid yn setio allan, yna yn ôl i mewn, cerdded ymlaen 3 cham a throi i wynebu'r ffordd arall, gan newid dwylo. Ailadrodd yn ôl i'r man cychwyn. A2: Breichio dde a chwith B1: Clapio dwylo dwywaith ac unwaith â llaw dde'r partner Clapio dwywaith wedyn unwaith gyda chwith y partner Clapio dwywaith ac ar groes ysgwyddau unwaith Clapio dwylo dwywaith, dwy law y partner unwaith. B2: Dawnsio'r polna neu droelli a dychwelyd i ddechrau eto ar gyfer y rownd nesaf |
Ffaniglen (Fennel) is a dance to get everyone
on the floor at a Welsh Twmpath
(barn dance), danced in a circle; it is an ideal introduction to
newcomers to Welsh social dance. One round of the dance corresponds to
playing the theme tune once through. In the case of Ffaniglen, the partners stay
together for the whole dance which
continues for as many rounds as the caller decides are needed,
typically 6 times or more. The theme tune is Ffaniglen which appears in the Machynlleth set earlier in this collection and in Alawon Sesiwn. It's a tune which is ideal to play with and adapt: the simple version shows how half the notes in the fast runs in bars 7&8, 10&12, 23&24 and 26&28 can be simplified. More experienced players can put their own runs into bars 3&4. Normal practice is to start the dance fairly slowly to give the dancers a chance to learn it and after a few rounds, increase the speed with each successive round. An alternative tune is vital after playing the main theme twice or more to lelarn the dance. This is provided here by Difyrrwch Gwŷr Llanfabon (Delight of the men of Llanfabon) which is in the Rali Twm Sion set in this collection and in Alawon Sesiwn 2. The Dance Partners stand side by side in a circle holding hands with boy on the inside, facing anti-clockwise. A1: Partners set outwards, then back in, walk forward 3 paces and turn to face the other way, changing hands. Repeat back to the starting point. A2: Arm right and left B1: Clap own hands twice, once with partner's right Clap twice, once with partner's left Clap own hands twice, own shoulders crossed once Clap own hands twice, partner's both hands once. B2: Dance the polka or spin and return to start again for the next round |
Chwarae'r alaw Play the melody |
|
Chwarae'r alaw'n araf Play the tune slowly |
Chwarae'r alaw Play the melody |
Chwarae'r alaw Play the melody |
|
Chwarae'r alaw'n araf Play the tune slowly |
|