Set Huw Puw

Set mis
Awst
2020
August
set

Setiau - Sets
A,B,C ....


Mis blaenorol
Previous month
Mis nesaf
Next month
 


Fflat Huw Puw
Hugh Pugh's flat (boat)

Midi
Gif
Dydd Cyntaf Awst
The first day of August
Midi
Gif
Pibddawns y Gorllewin fel polca
The Western hornpipe as a polka
Midi
Gif
Set Fflat Huw Puw



Chwarae'r set
Play the set

Mae gan y set hon flas ar y môr, ar adeg pan mae cyfyngiadau firws Covid 19 wedi'u lleddfu gan ganiatáu ymweliadau â glan y môr.
Ysgrifennwyd Fflat Huw Puw (Fflat Hugh Pugh) gan John Glyn Davies. Yn y gwir draddodiad gwerin, defnyddiodd yr alawon yr oedd morwyr yn eu canu yn gynnar yn yr 20fed ganrif, yn tarddu o lawer o wledydd, fel sail i lawer o ganeuon sy'n boblogaidd heddiw.
Mae Dydd Cyntaf Awst yn polca sydd wedi'i ddefnyddio nifer o weithiau yng nghasgliad Alawon Cymru. Mae'n arbennig o berthnasol yn y set hon oherwydd dyma'r dôn y seiliwyd Fflat Huw Puw arni.
Daw'r set i ben gyda Pibddawns y Gorllewin a ddaeth i'r amlwg yng nghasgliad gwych Robin Huw Bowen o Tro Llaw sydd bellach yn anffodus allan o brint. Fe'i nodir yma mewn amser 4/4 a'i chwarae fel polca yn hytrach na gyda sgip nodweddiadol pibddawns a chwaraewir yn 12/8 fel yn Fflat Huw Puw.
Daw Dydd Cyntaf Awst yn ôl i orffen y set.

This set has a flavour of the sea, at a time when the Covid 19 virus restrictions have been eased to allow visits to the seaside.
Fflat Huw Puw (Hugh Pugh's Flat) was written by John Glyn Davies. In the true folk tradition, he used the tunes that sailors singing
early in the 20th century, originating from many countries, as a basis for many songs which are well-loved today.
Dydd Cyntaf Awst (The first day of August)
is a polka that has been well used in the Alawon Cymru collection. It is particularly relevant in this set because this is the tune on which Fflat Huw Puw is based.
The set concludes with Pibddawns y Gorllewin (the West hornpipe) which was brought to light in Robin Huw Bowen's great collection Tro Llaw which is now unfortunately out of print. It is noted here in straight 4/4 time and played as a polka rather than with the typical skip of a hornpipe played in 12/8 as in Fflat Huw Puw.
The set ends with a joyous repeat of Dydd Cyntaf Awst.




Chwarae'r alaw
Play the melody


1. Mae swn yn Mhortinllaen, swn hwylie'n codi:
Blocie i gyd yn gwichian, Dafydd Jones yn gweiddi;
Ni fedra'i aros gartre yn fy myw;
Rhaid i mi fynd yn llongwr iawn ar Fflat Huw Puw.
Cytgan:
Fflat Huw Puw yn hwylio heno,
Swn codi angor; mi fyna'i fynd i forio:
Mi wisga'i gap pig gloew tra bydda'i byw,
Os cai fynd yn llongwr iawn ar Fflat Huw Puw.

2. Mi bryna'i yn y Werddon sane sidan,
Sgidie bach i ddawnsio, a rheiny a bycle arian;
Mi fyddai'n wr bonheddig tra bydda'i byw,
Os ca i fynd yn Gapten llong ar Fflat Huw Puw.  
(Cytgan)
3. Mi gadwai'r Fflat fel parlwr gore,
Bydd sgwrio mawr a chrafu bob ben bore;
Mi fydd y pres yn sgleinio ar y llyw,
Pan fydda i yn Gapten llong ar Fflat Huw Puw.
(Cytgan)










Chwarae'r alaw
Play the melody
Chwarae'r alaw'n araf
Play the tune slowly

 





Chwarae'r alaw
Play the melody
Chwarae'r alaw'n araf
Play the tune slowly
 

Setiau - Sets
A,B,C ....


Mis blaenorol
Previous month
Mis nesaf
Next month